Mae angen llenwi 7,000 o swyddi gwag yn awr!

Mae gwirfoddoli’n gallu bod yn opsiwn gwych, pa oedran bynnag ydych chi. Ystyriwch bobl ifainc. Yn aml iawn allan nhw ddim canfod swydd am nad oes ganddynt y profiad. A does ganddyn nhw ddim profiad am na allan nhw ganfod swydd. Wel, mae gwaith gwirfoddol yn ffordd ragorol o dorri’r cylch cas yma. Byddwch yn dysgu sgiliau newydd, yn profi eich gallu i’r cwmni, yn cael profiad gwerthfawr ac yn gwneud rhywbeth buddiol iawn.

Dysgwch y sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau

Mae gwirfoddoli’n ffordd dda o ddysgu’r sgiliau a chael y profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Yn wir, pan ofynnwyd i gyflogwyr, dywedodd 75% ohonynt y byddai’n well ganddynt benodi rhywun sydd â phrofiad o waith gwirfoddol.

Gwirfoddolwch i ddechrau i weld ydych chi’n mwynhau

Nid pobl eraill yn unig sy’n cael budd o’ch gwaith gwirfoddol – rydych yn eich helpu eich hun hefyd. Cewch gyfle i brofi eich gallu i’r cyflogwyr, i gael profiad hanfodol ac i ddysgu sgiliau newydd. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i chi ddysgu mwy am y sector y gweithiwch ynddo, datblygu dealltwriaeth o ofynion y swydd a phenderfynu ydych chi eisiau gyrfa dymor hir yn y maes hwnnw.

Ychydig yn hŷn? Rhannwch eich oes o brofiad

Os ydych wedi cyrraedd cyfnod yn eich bywyd lle’r ydych wedi gweithio ers ugain neu efallai ddeg ar hugain o flynyddoedd, efallai eich bod yn chwilio am sialens newydd; newid cyfeiriad. Mae gwirfoddoli’n ffordd ragorol o gymryd y camau cyntaf yn ôl i addysg. Bydd yn rhoi’r cyfle i chi ddefnyddio eich profiad a dysgu sgiliau newydd. Gallech ganfod gwaith sy’n rhoi boddhad a sialens i chi, sy’n eich gosod ar ben ffordd at yrfa newydd.

Mae mwy na 7,000 o swyddi gwag angen eu llenwi

Oeddech chi’n gwybod bod y sector gwirfoddol yn cyflogi mwy na 46,000 o bobl yng Nghymru? Mae gwirfoddoli’n gallu bod yn opsiwn gwerthfawr a phositif os ydych yn chwilio am swydd ac am gael cyfle i’ch profi eich hun ym myd gwaith.

Mae www.volunteering-wales.net yn wefan wych sy’n hysbysebu swyddi gwirfoddol yng Nghymru ac yn rhoi’r holl ffeithiau angenrheidiol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli. Ar hyn o bryd mae mwy na 7,000 o swyddi’n aros i gael eu llenwi.