Bookmark and Share
10 Syniad Campus
Cymorth ariannol
Dod o hyd  i gwrs
Dolennau  dysgu
Digwyddiadau am ddim

Eich

  • syniadau
  • cyngor
  • llwyddiant

Beth sydd gan y dyfodol mewn golwg i chi? Fyddwch chi’n mwynhau bodlondeb, gwobrau a llwyddiant personol? Neu ydych chi’n wynebu bywyd yn bryderus, yn ofni a fydd eich swydd mewn perygl? Os ydych mewn swydd, ydych chi’n hollol hapus gyda’ch gwaith? Ydych chi’n rhwystredig? Ydych chi’n dyheu am yrfa sy’n eich ysbrydoli a’ch cyffroi? Ydych chi wedi bod yn gweithio ers ugain mlynedd a mwy ac yn hoffi’r syniad o newid gyrfa’n gyfan gwbl? Neu efallai eich bod newydd adael addysg lawn amser a’ch bod ar fin camu i’r byd mawr? Efallai eich bod wedi chwilio am swydd ers sbel ac yn teimlo ychydig yn ddigalon?

Syniadau ampus ar gyfer llwyddo yn eich gyrfa

Beth bynnag yw eich sefyllfa, gall y wefan hon eich helpu i weithio tuag at eich targedau gyrfaol. Yn ogystal â rhoi dolenni defnyddiol i chi at yr arbenigwyr all gynnig cyngor i chi am unrhyw beth o hyfforddi a datblygu sgiliau, i chwilio am swydd, gwirfoddoli a phrofiad gwaith, rydym wedi casglu llu o syniadau ymarferol i’ch helpu i ganolbwyntio ar y pethau allweddol y gallwch eu cyflawni er mwyn llwyddo yn eich gwaith yn y dyfodol.

Felly, ewch amdani, edrychwch i weld sut gall ein syniadau ymarferol eich helpu.

item2a3