Camau at Waith
Dros 18? Yn ddi-waith? Mae Camau at Waith wedi'i sefydlu i roi hyfforddiant a phrofiad gwaith gwerthfawr i chi. Os hoffech gael swydd, neu fynd ar gwrs lefel uwch, fel prentisiaeth, yna mae Camau at Waith yn garreg gamu wych.
Byddwch yn derbyn yr un faint â'ch budd-dal
Mae'n dibynnu ar eich amgylchiadau, ond byddwch yn derbyn swm sydd yr un fath â'ch budd-dal ac efallai y gallech gael lwfans hyfforddi.
Dysgu sy'n Canolbwyntio ar Waith
Ydych chi'n brin o hyder? Ddim yn siŵr pa swydd yr hoffech ei gwneud? Erioed wedi gwneud unrhyw ddysgu o'r blaen? Os felly, mae Dysgu sy'n Canolbwyntio ar Waith yn ffordd wych o gymryd y camau cyntaf at hyfforddiant a gallech gael cymhwyster cydnabyddedig ar y diwedd.
Llwybrau i Gyflogaeth
Os oes gennych syniad pa fath o swydd rydych ei heisiau, efallai y cewch chi'r opsiwn yma, os yw Adran Gwaith a Phensiynau neu'r Canolfan Byd Gwaith wedi canfod cyfle addas. Os felly, byddwch yn cwblhau asesiad ac, os ydych yn llwyddiannus, byddwch yn dilyn rhaglen hyfforddi sydd wedi'i theilwra i anghenion presennol neu ddyfodol sector economaidd neu fusnes arbennig; ac efallai y cynigir cyfweliad am swydd i chi ar y diwedd.
Lawrlwythwch PDF am Gamau at Waith
Hyfforddiaethau
Os yw diffyg sgiliau neu hyder wedi'ch dal yn ôl, ac rydych yn iau na 19, gallai Hyfforddeiaeth eich helpu i gael swydd, neu symud ymlaen i gwrs lefel uwch, fel prentisiaeth.
A gewch chi eich talu?
Os byddwch yn ymuno â'r rhaglen Hyfforddeiaeth, byddwch yn derbyn lwfans. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â'ch cynghorydd Gyrfa Cymru neu eich darparwr hyfforddiant.
Mae dwy lefel mynediad i Hyfforddiaethau, felly byddwch yn canfod yr un sydd orau i chi.
- Ymgysylltiad
Os nad ydych yn siŵr beth hoffech ei wneud, neu'n nerfus am gychwyn, mae hwn i chi.
- Lefel 1
Dewch i mewn ar y lefel yma os ydych yn gwybod pa fath o swydd rydych ei heisiau, ac rydych yn barod i gychwyn dysgu'n llawn amser ar y lefel yma.







