Dysgu Cymraeg
Mae sgiliau iaith Gymraeg wedi dod yn fwyfwy pwysig yng Nghymru. Mae nifer o resymau dros ddewis i ddysgu Cymraeg. Mae rhai pobl eisiau dysgu'r iaith i'w helpu yn eu gyrfaoedd, tra bod eraill eisiau dysgu er mwyn siarad Cymraeg gyda'u teuluoedd nhw.
Mae'r chwe Chanolfan Cymraeg i Oedolion yn cynnig cyrsiau ar gyfer oedolion ar bob lefel ar draws Cymru. Mae amrywiaeth eang o gyrsiau ar gael, o gyrsiau wythnosol i gyrsiau dwys, ynghyd â chyrsiau sydd wedi eu teilwra ar gyfer teuluoedd a'r gweithle. Bydd rhaglen lawn o gyrsiau newydd yn cychwyn ym mhob rhan o Gymru ym mis Medi. Os oes diddordeb gennych mewn dysgu Cymraeg o'r newydd, neu os ydych am wella eich sgiliau iaith-Gymraeg ymhellach, cysylltwch â'ch Canolfan Cymraeg i Oedolion leol am gyngor. Am fanylion cyswllt a gwybodaeth bellach am gyrsiau Cymraeg i Oedolion, ewch i www.cymraegioedolion.org.


Adrian yn rhoi dysgu Cymraeg i ddefnydd busnes
Gyda newidiadau yn y ddeddf iaith Gymraeg yn digwydd, roedd cyflogwr Adrian Bates yn edrych am unigolion i helpu’r sefydliad gynnig gwasanaeth dwyieithog cyflawn - drwy ateb y ffôn, delio â gohebiaeth a siarad â chwsmeriaid. Pan gynigwyd, gafaelodd Adrian yn syth y cyfle.
Dechreuodd Adrian gyda chwrs ymddiddanol WLPlan eithaf dwys, yn astudio oddeutu chwe awr yr wythnos gyda thiwtoriaid oedd yn dod i’r swyddfa. Nawr, mae’n derbyn sesiynau ychwanegol pan fo’r angen. Mae ei hyder yn y defnydd o’r Gymraeg wedi datblygu i’r pwynt ble mae Adrian yn cynllunio i ddarparu sesiynau hyfforddiant i ynadon sy’n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf.
“Os ydych yn meddwl am ddysgu Cymraeg, ewch amdani, peidiwch â bod ofn. Mae’n beth cymdeithasol iawn i’w wneud; ac mae’n dda ar gyfer cyfathrebu gydag eraill, wrth gwrs. Mae yna bob math o bethau eraill fedrwch ei wneud yn ychwanegol i’r dosbarthiadau, mae yna ysgol neu ddosbarthiadau penwythnos, pob math o ddigwyddiadau cyfrwng Cymraeg, neu’n rhannol Gymraeg i’ch annog chi a’ch helpu chi i arfer â’r iaith. Mae’n hwyl.”
Cliciwch yma i weld fideo o lwyddiant Adrian wrth ddysgu

Cartref yw’ ble mae’r Gymraeg yn dechrau…
Penderfynodd Michelle Whitley ddysgu Cymraeg pan ddechreuodd pedwar o’i phlant yn yr ysgol Gymraeg. Wrth i’w merch hynaf ddechrau darllen, meddyliodd ei bod hi’n hen bryd iddi ddechrau dysgu Cymraeg ei hun.
Cafodd wersi yn ysgol ei merch. Nid oedd Michelle yn ei gweld hi’n anodd cael hyd i ddwy awr yr wythnos gan fod hyn yn gweithio’n dda ag amserlen meithrinfa’i merch arall.
Mae Michelle yn defnyddio’i Chymraeg adref ac mae ei merched wrth eu boddau pan mae hi’n ymateb iddynt yn y Gymraeg.
“Roeddwn i’n nerfus dros ben i ddechrau yn meddwl ein bod am eistedd yno yn gwneud lot o waith ysgrifenedig. Yn lle, roedd o’n hwyl, yn chwarae gemau, ac yn cydweithio â phobl wanhaol yn y dosbarth. Mi wnes i fwynhau”, meddai Michelle. “Os mae eraill yn holi am ddysgu Cymraeg ac yn gofyn a yw’n werth o, mae yn, yn bendant. Mae’n bleserus a ddim yn waith caled, fel mae rhai yn credu”.
Cliciwch yma i weld fideo o lwyddiant Michelle wrth ddysgu