Digwyddiadau am ddim
Cymorth ariannol
Dod o hyd  i gwrs
Bookmark and Share
10 Syniad Campus
Dolennau  dysgu

Eich

  • sgiliau
  • talent
  • gwefan

Dyma’ch dyfodol

Mae’n bwysicach heddiw nag y bu erioed i ddysgu sgiliau newydd a sicrhau bod y medrau cywir gennych i lwyddo ym myd gwaith. Gyda’r sgiliau cywir, gallwn wynebu beth bynnag y bydd bywyd yn ei daflu atom. Efallai eich bod yn hanner cant ac wedi gweithio ers i chi adael yr ysgol, neu efallai eich bod newydd adael ysgol neu goleg ac yn ceisio canfod eich swydd gyntaf. Efallai eich bod yn ceisio ymdopi gyda cholli eich swydd, yn mynd yn ôl i’r gwaith, yn gobeithio cael dyrchafiad yn eich swydd, yn breuddwydio am newid eich gyrfa… neu efallai mai ofni colli eich swydd a’ch bywoliaeth yr ydych.

Dyma’ch gwefan chi

Mae’n esbonio pa arian y gallech ei hawlio, gallwch ganfod cwrs sy’n gywir i chi a chael rhagor o wybodaeth ynglŷn â lle i fynd i gael cyngor cyfeillgar ac arbenigol. Ac os byddwch eisiau rhagor o dystiolaeth o’r llwyddiant, hapusrwydd a lles y gallwch ei fwynhau o wneud cwrs, edrychwch ar eich tudalen Hanesion y Dysgwyr. Gallwch weld fideos yn dangos enillwyr y gwobrau Inspire am Addysg Oedolion. Mae eu hanesion yn llawn ysbrydoliaeth.

item2a3