Mewn dim ond un wythnos, cynhelir dros 700 o ddigwyddiadau dysgu llawn hwyl ym mhob rhan o Gymru, gyda chynifer â 34,000 o bobl yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd! Gwnewch yn siŵr eich bod yn eu plith. I ganfod beth fydd yn digwydd yn eich ardal chi, cliciwch ar eich ardal ar y map, a chewch restr o'r holl bethau fydd yn digwydd yn lleol i chi. Neu, os dewiswch, gallwch lawrlwytho PDF o'r canllaw ‘beth sy'n digwydd’ ar gyfer eich ardal chi drwy glicio ar y linc yma. Dewch, cymerwch ran a gwnewch wahaniaeth!