Dod o hyd i’r cwrs cywir
Gyda chymaint o ddewis o gyrsiau, mae’n hollbwysig eich bod yn dewis un sy’n iawn i chi.
Er mwyn eich helpu i wneud y dewisiadau cywir, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd i ‘Cyrsiau yng Nghymru’ ar careerswales.com. Mae hon yn wefan sy’n cynnwys y rhestr fwyaf cynhwysfawr o gyrsiau yng Nghymru, ac mae’n cynnwys yr holl brif golegau, prifysgolion a chanolfannau addysg oedolion. Os yw’n well gyda chi siarad â rhywun, yna ffoniwch y llinell cyngor gyrfaol ar 0800 10 900 i gael sgwrs gydag un o’n cynghorwyr. Mae nhw’n barod ac yn aros i’ch helpu.


Gay yn blasu gyrfa newydd
Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, fel y canfu Gay Jervis o Dredegar pan gamodd yn ôl i'r ystafell ddosbarth i wella ei sgiliau llythrennedd a rhifedd.
“Ar ôl gorffen yn y coleg dw i'n gobeithio mynd i'r coleg arlwyo. Dw i wedi bod eisiau gweithio mewn arlwyo ers i mi fod yn blentyn ond dydy pethau ddim yn digwydd fel y gobeithiwn bob amser mewn bywyd,” esboniodd Gay.
“Nawr mae gen i amser i ddod yn ôl i'r coleg a gwella fy addysg, ac efallai gael yr yrfa dw i wedi gobeithio ei chael erioed.”
Meddai Gay i gloi: “Mae astudio yng Ngholeg Gwent yn wych. Mae wedi rhoi llawer mwy o hyder i mi i fynd am yr yrfa rwyf ei heisiau. Mae'r Campws yn grêt; dw i wedi mwynhau popeth am fod yma ac am fy nghwrs.”

Iris yn profi nad yw hi byth yn rhy hwyr
Roedd camu'n ôl i'r ystafell ddosbarth yn rhywbeth newydd i Iris Jones o Dredegar sydd yn ei hail flwyddyn o gwrs Dychwelyd i Ddysgu.
“Ar y dechrau roedd astudio'n edrych yn dipyn o sialens am nad oeddwn i wedi'i wneud ers ugain mlynedd, ond daeth yn haws yn fuan iawn.” esboniodd Iris, sy'n bwriadu defnyddio ei chymwysterau newydd i gael swydd ysgrifenyddol neu weinyddol.
“Nid yn unig ydw i'n cael cymwysterau i wella fy rhagolygon gyrfaol, dw i hefyd wedi cyfarfod ffrindiau newydd ac mae fy hyder wedi tyfu'n fawr. Dw i wedi gallu gwneud pethau newydd na fyddwn i byth wedi gallu eu gwneud cyn dod i'r coleg, dw i wedi datblygu'n fawr.”
“Ymysg y sgiliau newydd rwyf wedi'u dysgu ar fy nghwrs mae sgiliau cyfathrebu a sgiliau cyfrifiadur – allwn i ddim rhoi cyfrifiadur ymlaen cyn i mi ddod i'r coleg a nawr dw i'n defnyddio taenlenni! Cefais fy TGAU Saesneg y llynedd a dw i'n gwneud mathemateg eleni.”
